← 输入框|cy.wikipedia.org|刷新
Neidio i'r cynnwys

Sosban

Oddi ar Wicipedia
Sosban
Mathstock pot Edit this on Wikidata
CrëwrTimo Sarpaneva Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sosban yn badell fetel, yn enwedig un gron ddofn ac iddi handlen(ni) a chaead, a ddefnyddir i ferwi, stiwio, ac ati.[1] Yn nodweddiadol, mae'n 90 i 100mm o ddyfnder, ac yn ddigon llydan i ddal o leiaf 950ml o ddŵr; gall y meintiau amrywio hyd at 3.8 litr.[2] Mae'r sosban yn "offeryn coginio gydag un ddolen ac mae'r pot saws, ar y llaw arall, yn cynnwys dwy ddolen ar yr ochrau".[3] Yn wahanol i badellau coginio eraill, fel arfer nid yw sosban wedi'i dylunio i gael arwyneb nad yw'n glynu. Gwneir hyn er mwyn gallu ei defnyddio ar gyfer 'dad-wydro' (deglazing) – proses lle caiff bwyd sydd wedi glynu wrth wyneb y badell yn ystod y coginio ei ail-goginio gyda hylif a chynhwysion eraill i greu saws.

Deunydd

[golygu | golygu cod]

Mae sosbenni fel arfer wedi'u gwneud o ddur gwrthstaen ac yn dod â chraidd wedi'i wneud o gopr neu alwminiwm. Deunyddiau amgen yw alwminiwm caled iawn neu gyfuniad o fetelau. Mae sosbenni canolig (dau i dri litr) yn addas ar gyfer lleihau sawsiau ynddynt, tra bod sosbenni llai (un i litr a hanner) yn cael eu defnyddio i doddi siocled neu fenyn neu wresogi llaeth. Mae sosbenni mawr (pedwar chwart neu fwy) yn addas ar gyfer coginio cawliau, pasta neu reis a stêmio llysiau.[4]

Geirdardarddiad

[golygu | golygu cod]

Efallai'n ddryslyd i'r siaradwr Cymraeg mae'r gair "casserole" neu "caserol" i olygu stiw o rhyw fath yn dod o'r Ffrangeg, ac yn golygu "sosban" yn y Ffrangeg. Mae'r term casserole yn deillio o'r Ffrangeg ac yn golygu "pot coginio": ei darddiad etymolegol yn y Ffrangeg Canol yw casse "llwy fawr" sydd yn ei dro'n deillio o'r term Ocsitaneg cassa, y Lladin Canol a llafar, cattia "lletwad" a'r bychanol Groeg Hynafol kyathion, o kyathos, sef "bowlen".[5][6]

Deunyddiau Sosbenni

[golygu | golygu cod]

Enghreifftiau o ddeunyddiau cyffredin yw dur gwrthstaen, haearn bwrw, alwminiwm neu cyfuniad o ddeunydd.

Sosban a'r Gymraeg

[golygu | golygu cod]
Plac yn coffau lle cyfansoddwyd y gân enwog Sosban Fach yn Llanwrtyd

Mae'r gair "sosban" yn fenthyciad o'r gair Saesneg, sausepan. Ceir y cyfeiriad cynharaf yn llyfr Pob Dyn ei Physygwr ei Hun yn 1771; "cymmerwch floneg mochyn … neu ryw doddion, a rhoddwch hwynt mewn saspan."[1]

Cyfeirir ar dref Llanelli fel "tref y sosban" gan iddi fod yn ganolfan cynhyrchu tun a metalau. Yn 2002 cyhoeddwyd Sosbanelli fel atodiad Gymraeg i bapur lleol y Llanelli Star. Cymaint oedd cysylltiad Llanelli gyda'r diwydiant tun a'r gân Sosban Fach fel y rhoddwyd delwedd o'r sosban ar eu pyst ar hen gae rygbi Parc y Strade.[7][8]

Efallai mai'r enghraifft enwocaf o'r cysylltiad rhwng Llanelli a'r sosban enwog yw'r gân adnabyddus Sosban Fach a genir mewn meysydd rygbi, tafarndai, a chyngherddau ar draws Cymru neu lle bydd Cymry'n ymgynnull.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Sosban". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.
  2. ↑ Susan Westmoreland, Step by Step Cookbook: More Than 1,000 Recipes (2008), p. 10.
  3. ↑ Louise Jenison Peet, Mary S. Pickett, and Mildred G. Arnold, Household Equipment (1979), p. 120.
  4. ↑ Bryan Miller en Marie Rama: Kochen für Dummies. Weinheim: Wiley-VCH Verlag 2009, bl. 54
  5. ↑ "The Casserole's Origins are a Lot Older than You'd Think!". Gwefan Cook'n. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.
  6. ↑ "Casserole". Etymonline. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.
  7. ↑ "Stradey Park Llanelli - the Scarlets 1879-2008". The Rugby Journal. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.
  8. ↑ "SN4900 : The original goal posts from Stradey Park Stadium". Geograph. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]